Merthyr

Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful

Hybu ac ehangu defnydd o’r Gymraeg

 

 

 

Siop y Ganolfan

Ffon/Ffacs: 01685 373770

 

Cliciwch y llun i fynd i wefan Siop y Ganolfan Gwefan Sio y Ganolfan

 

Croeso i Siop Y Ganolfan!

Sefydlwyd Siop Y Ganolfan ym 1992 mewn ystafell fach yn hen neuadd Capel Soar. Trwy gyflenwi'r galw cynnyddol am lyfrau Cymraeg yn ardal Blaenau'r Cymoedd, roedd yr elw yn cael ei ddefnyddio i gynnal gweithgareddau, digwyddiadau a nosweithiau gymdeithasol i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn y Ganolfan Gymraeg newydd yn y dre.

Yn 2003 sefydlwyd Menter Iaith yma hefyd ac ers hynny Y Fenter sydd wedi datblygu'r gwaith o ddarparu cyfleoedd Cymraeg yn Y Ganolfan a thu allan yn y gymuned ehangach.

Mae'r arian sydd wedi cael ei gynilo gan y siop wedi helpu tuag at y cost o ariannu datblygiad cyffrous; 'Cynllun Soar.' Mae'r cam cyntaf , a orffenwyd haf 2009, wedi sicrhau cartref newydd i'r siop yn hen festri'r capel. Fe fydd camau nesaf y cynllun yn cynnwys gwelliannau sylweddol i'r Ganolfan cyn trawsnewid y capel ei hun mewn i theatr gymunedol.
Erbyn hyn mae'r siop wedi datblygu i fod yn fusnes annibynnol ond dal a chysylltiadau cryf gyda'r Ganolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful.

Galwch mewn am baned, dyw'r tegell byth yn oeri!

Phyl Griffiths

Siop y Ganolfan

 

 

 


 

Siop y Ganolfan - Ffon/Ffacs: 01685 373770

   
     

 

Canolfan a
Menter Gymraeg Merthyr

Neuadd Soar
Pontmorlais
Merthyr Tudful
CF47 8UB
Ffôn: 01685 722176
  

 

Bwrdd yr Iaith Gymraeg