Merthyr

Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful

Hybu ac ehangu defnydd o’r Gymraeg

Newyddion 2

£2100 i sefydlu sin Werin Gymreig Merthyr

£2100 i sefydlu sin Werin Gymreig Merthyr
Mae Menter Merthyr wedi derbyn grant o £2100 tuag at gynllun i ddatblygu cerddoriaeth gwerin Gymreig ym Merthyr. Mae’r arian yn dod yn sgil nifer o weithdai chwibanoglau llwyddiannus a ariannwyd gan Cymunedau’n Gyntaf Tref a Pharc.
Fe fydd y gweithdai yn para am flwyddyn gyda sawl perfformiad a sesiwn yn cymryd lle. Arch-pibwr Geraint 'Jacob' Roberts fydd wrth yr awennau gyda chyfle i gyfranogwyr arbrofi gyda'r pibgorn, chwibanogl, bodran a'r pibau Cymreig.
Os oes diddordeb gyda chi mewn dysgu chwarae alawon traddodiadol, pun ai dechreuwr pur neu'n offerynnydd profiadol, cysylltwch â'r Fenter nawr.
Diolch yn fawr am gefnogaeth Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf a’r WCVA.
20/07/2009

Bwrlwm ym Merthyr

Bwrlwm ym Merthyr
Ar dudalen flaen gwefan y fenter ym Merthyr, fe welwch y farddoniaeth isod sy’n rhan o sgript opera roc a berfformiwyd yno yn 2006:

Mae fflam yn nhref y ffwrnais,
Mae angerdd yn ein cân.
O ludw oer Cyfarthfa,
edrychwn ni ymlaen.
Ni yw gobaith Merthyr,
Mae mentro yn ein gwaed.
Dyfodol yn y cymoedd,
Cymraeg sydd ar ei thraed.

Ar ôl ymweld â’r Ganolfan yn ddiweddar a dod i wybod mwy am yr holl gynlluniau sydd ar y gweill, ni all yr un dyn byw ddadlau nad yw’r fflam erbyn hyn bron yn goelcerth.

Un o’r pethau mwyaf annisgwyl am y lle yw bod y Ganolfan wedi ei lleoli ar waelod lôn gul yng nghanol tref Merthyr ac wedi ymgartrefu mewn hen festri capel, gyda’r capel ei hun (Capel Soar) rhyw fetr yn unig i ffwrdd, yr ochr draw i’r lôn gul. Mewn gwirionedd, dyma ffrwyth Eisteddfod yr Urdd 1987 a gynhaliwyd ym Merthyr. Penderfynwyd adeiladu ar y seiliau a osodwyd gan ymweliad yr Eisteddfod â’r dref ac arweiniodd y cynlluniau cychwynnol hynny at sefydlu’r fenter yn y festri ym 1992 ac at drefnu gweithgareddau cyfrwng Cymraeg unwaith y mis. Ym 1992 agorwyd siop lyfrau Cymraeg yno hefyd.

Roedd yr holl waith a wnaed gan unigolion yn y fenter am y ddeng mlynedd cyntaf hynny yn hollol wirfoddol. Yn 2002 cyflwynwyd cais llwyddiannus i Fwrdd yr Iaith am arian i sefydlu menter swyddogol ac yn 2003 sefydlwyd Menter Iaith Merthyr gyda chydweithrediad pwyllgor Capel Soar. Lis McLean yw’r Swyddog Datblygu ac mae hi wedi bod yn weithgar iawn yno ers y dechrau. Hi hefyd sydd wedi bod yn gyfrifol am gydlynu’r holl newidiadau sydd ar y gweill yno. Y bwriad yw trawsffurfio Capel Soar ac adeilad y festri ym Mhontmorlais yn lleoliad celfyddydau cymunedol. Bydd y cynllun yn galluogi datblygu’r celfyddydau ym Merthyr trwy ddarparu canolbwynt ar gyfer celfyddydau o fewn y gymuned. Bydd Grŵp Sylfaen o ddarparwyr celfyddydau cymunedol yn gyfrifol am reoli, cynllunio a datblygu’r fenter.


Bydd y manteision i’r gymuned yn enfawr wrth gwrs ac yn cynnwys:
• lle aml-bwrpas fforddiadwy
• darpariaeth gelfyddydol sydd yn hygyrch ac yn fforddiadwy
• cyfleoedd addysgiadol a chymdeithasol dwyieithog yn ymwneud â’r celfyddydau a’r cyfryngau, yn ogystal â hyfforddiant
• cynnydd yn yr ymwybyddiaeth o ddiwylliant a threftadaeth Cymru

Bydd hyn i gyd yn arwain at greu Theatr Gymunedol ddwyieithog yn y capel ei hun fydd yn darparu man cyfarfod a pherfformio i nifer fawr o gwmnïau a chlybiau yn yr ardal. Bydd trysorau Capel Soar wrth gwrs, megis yr hen organ, yn cael eu diogelu a byddant yn cael eu cadw yn eu lle gwreiddiol. Bydd y capel yn cau fel man addoli ar y 5ed o Fawrth gyda gwasanaeth arbennig a bwriedir lansio llyfr yn olrhain hanes Capel Soar. Wedi hynny gellir gweithredu’r cynllun o greu awditoriwm, llwyfan, stiwdio ddawns a chelf.

Y nod yw darparu cyfleoedd Cymraeg mewn canolfan Gymraeg. Yn wreiddiol sefydlwyd Capel Soar yn gapel a chanolfan moethus i Annibynnwyr y dref. Gellir dadlau bod hynny’n parhau mewn modd, efallai, fydd yn cyrraedd cynulleidfa tipyn yn fwy.

Mae’r cynlluniau yn uchelgeisiol ond yn gyffrous iawn. Bydd y cyfanswm o £1.4 miliwn sydd ei angen ar gyfer yr holl waith hefyd yn caniatáu troi’r festri’n 3 llawr i gynnwys:
• ystafelloedd dysgu
• neuadd
• lolfa
• siop lyfrau a chaffi
• swyddfa’r fenter
• swyddfeydd ar gyfer Canolfan Cymraeg i oedolion Morgannwg
• swyddfeydd ar gyfer yr Urdd a’r Mudiad Ysgolion Meithrin

Y gobaith yw gweld y gwaith yn dod i ben ymhen rhyw ddeunaw mis ond yn y cyfamser mae’r gwaith ardderchog a wneir yno gan gnewllyn bychan o unigolion yn parhau. Yn ogystal â Lis, mae Jamie Bevan yn gweithio i’r ganolfan fel swyddog maes ac mae Siôn Roberts, swyddog yr Urdd, hefyd wedi ei leoli yno. Mae’r ymdrechion a wneir ganddynt i godi proffil yr iaith Gymraeg a hyder y bobl leol i’w defnyddio yn ganmoladwy. Maent wedi sefydlu projectau Cymraeg mewn rhai o ysgolion uwchradd Saesneg Merthyr ac er bod problemau cyffuriau wedi amharu ychydig ar ddatblygiad yr ysgolion roc, maent yn ceisio goresgyn y problemau hynny i barhau i gynnal sesiynau jamio ar gyfer bandiau ifanc. Mae Jamie Bevan yn cynnal colofn wythnosol yn y ‘Merthyr Express’ er mwyn codi proffil y gweithgareddau ac mae nifer o grwpiau’n defnyddio gofod y festri eisoes e.e. cymdeithas y dysgwyr, cwmni dawnsio gwerin, cwmni drama a.y.y.b.

Mae’r dyfodol yn ddisglair ym Merthyr ac mae llwyddiant yn magu llwyddiant. Rhaid cofio mai gwraig o Ferthyr yw Jenny Henn, sef un o’r pedwar oedd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn. Does dim angen dweud mwy.

O Y Tiwtor Chwefror 2009
Bwrlwm ym Merthyr
16/02/2009

Prosiect Gwaith Ieuenctid

Prosiect Gwaith Ieuenctid
Mae’r prosiect yma yn adeiladu ar lwyddiant Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful. Prosiect ar y cyd ydyw gyda’r partneriaid sef Urdd Gobaith Cymru, Menter Iaith Merthyr Tudful a’r Cyngor Sir oll yn chwarae rhan flaenllaw. Mae’r swyddog, Siôn Roberts, wedi ei leoli yn festri Capel Soar sy’n gartref i Ganolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful.

Bwriad y prosiect yw rhoi cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc 14-19 yr ardal, gan gynnig ystod eang o brofiadau gwahanol yn ymwneud ag ymwybyddiaeth ddiwylliannol.

Mae’r prosiect yn cynnwys sefydlu clybiau ieuenctid Cymraeg wythnosol yn ysgolion uwchradd ail iaith y sir ar gyfer pobl ifanc o‘r oedran 14-19. Gwneir gweithgareddau o bob math yn defnyddio’r iaith Gymraeg a chynigir profiadau newydd iddynt drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy drefnu teithiau ac ymweliadau megis:
Taith i stiwdio y BBC
Taith i’r Bae, Canolfan yr Urdd, y Senedd, Canolfan y Mileniwm a.y.y.b
Taith i weld sioe Cân i Gymru
Gigiau Cymraeg
Cyrsiau preswyl yng Nglanllyn
Gemau rygbi
Prosiect Gwaith Ieuenctid
17/02/2009

Grant i Gapel Soar

Grant i Gapel Soar
Rhoddwyd hwb mawr i gymuned Merthyr gydag addewid o grant o £527,000 oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) i drawsnewid adeiladau Capel Soar a’i Festri yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau cymunedol a’r celfyddydau perfformio.

Mae’r prosiect, fyddai’n creu lleoliad stiwdio’r celfyddydau perfformio a chyfleuster arddangos cyntaf Merthyr Tudful, wedi cael pas Cyfnod Un*, sy’n golygu bod CDL wedi clustnodi’r arian wrth i gynlluniau manylach gael eu rhoi at ei gilydd. Bydd £56,000 ychwanegol o arian datblygu oddi wrth CDL yn galluogi i Ganolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful (CMGMT), sefydliad cymunedol, symud ymlaen gyda’i gynllun £1.3 miliwn i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r Capel rhestredig Gradd II ac i greu canolbwynt y mae angen mawr amdano yng nghanol y gymuned.

Hefyd, mae’r prosiect wedi’i gefnogi gyda £300,000 oddi wrth raglen Blaenau’r Cymoedd.

Mae Capel Soar yn adeilad amlwg yng nghanol tref Merthyr. Bydd cynlluniau i ailwampio a grant CDL yn adfywio’r adeilad sydd wedi bod dan fygythiad cael ei gau. Ar hyn o bryd, mae CMGMT yn cynnal ystod o weithgareddau cymunedol o’u canolfan yn y cyn Festri ac adeiladau’r Ysgol Sul, a byddant yn ymgymryd â Phrydles y Capel i ymestyn eu gwasanaethau ac i sefydlu lleoliad stiwdio’r celfyddydau a chyfleuster arddangos cyntaf y dref. Bydd y cyfleusterau gwell yn darparu ystod fwy o weithgareddau i bobl ifanc ac oedolion ym Merthyr, gan gynnwys grwpiau theatr, gwersi cerdd a sesiynau hyfforddi fydd yn cynnwys pynciau o’r iaith Gymraeg i dreftadaeth i fagu hyder. Bydd y ganolfan ddwyieithog ar agor i bawb, gan dargedu grwpiau ysgol, grwpiau cymuned a grwpiau anabledd a phobl sydd wedi’u heithrio yn benodol.

At hyn, bydd y grant yn ariannu swyddog treftadaeth i gynyddu ymwybyddiaeth leol o dreftadaeth Merthyr, yn arbennig ei threftadaeth adeiledig a rôl yr iaith Gymraeg. Bydd y swyddog yn gweithio gyda thîm o wirfoddolwyr CMGMT i greu arddangosfeydd, diwrnodau treftadaeth a gweithdai a bydd yn ceisio recriwtio 20 o bobl ifanc eraill i helpu cynllunio ac arwain gweithgareddau diwylliannol a chymdeithasol yn yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Dan Clayton Jones, Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru: “Capel Soar yw un o unig Gapeli’r Annibynwyr sy’n weddill ac sydd mewn un darn mewn ardal sydd wedi colli darnau sylweddol o’i threftadaeth adeiledig o’r 19eg ganrif. Mae ei drawsnewid yn ganolfan i bobl leol yn ffordd grêt o ddiogelu ei ddyfodol. Wedi iddo gael ei ddatblygu’n llawn, bydd y prosiect o fantais enfawr i’r gymuned gyfan ym Merthyr a bydd yn galluogi i bawb ddysgu mwy am y gorffennol ar stepen eu drws.”

“Byddai’r cynllun arfaethedig yn rhoi’r cyfle i wirfoddolwyr, yn arbennig pobl ifanc, gymryd rhan mewn trefnu gweithgareddau, ymgysylltu â phobl ifanc eraill a chymryd rhan yn yr ystod eang o weithgareddau eu hunain. Heb os, mae gan y ganolfan botensial enfawr i fod yn ganolbwynt i blant ysgol a grwpiau cymunedol. Nawr, bydd rhaid i CMGMT ddatblygu eu cynlluniau a gweithio i ddiogelu arian partneriaeth er mwyn i ni allu cyflwyno’r arian iddynt.”

Bu i Leighton Andrews, Dirprwy Weinidog Adfywio, groesawu’r newyddion: “Mae hwn yn brosiect allweddol yng nghanol Merthyr fydd nid yn unig yn diogelu ac yn trawsnewid adeilad eiconig ond hefyd yn darparu canolfan bwysig i’r gymuned a ffocws allweddol ar gyfer meithrin talent leol yn y celfyddydau creadigol. Hefyd, mae ganddo’r potensial i greu swyddi newydd ac rwyf wrth fy modd y bydd arian oddi wrth CDL a rhaglen Blaenau’r Cymoedd yn helpu i droi’r prosiect cyffroes ac arloesol yma’n realiti.”

Credir bod datblygiad y ganolfan yn rhan annatod o Strategaeth y Celfyddydau Merthyr sydd wedi’i gynnig gan yr awdurdod lleol fel rhan o gynllun adfywio ehangach allai ddatblygu Parth y Celfyddydau yn ardal Pontmorlais.

Dywedodd Lisbeth McLean, Swyddog Datblygu yn CMGMT: “Mae’r newyddion bod yr arian ar ei ffordd wedi dod yn sgil tair blynedd o waith caled gan CMGMT gyda chefnogaeth Fforwm y Celfyddydau Merthyr a’r Cyngor Bwrdeistref. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r gymuned i wireddu breuddwydion y bobl dalentog sydd gennym yn ein hardal. Hefyd, mae’r prosiect yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen i’r iaith Gymraeg a’n gobaith yw y bydd hyn yn allweddol i agor pob math o ddrysau yn y dyfodol.”
Grant i Gapel Soar
09/10/2008

 

 

Lluniau Bedroc 2010 >> Bedroc


Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful Noson Acwstig - Dewch lawr i Gwesty'r Imperial Nos Iau nesaf ar gyfer noson o gerddoriaeth acwstig. Croeso mawr i chi ymuno mewn neu gwrando.

Rhad ac am ddim Gwesty'r Imperial, Pontmorlais 8.00  09/09/2010

 

 

 

Canolfan a
Menter Gymraeg Merthyr

Neuadd Soar
Pontmorlais
Merthyr Tudful
CF47 8UB
Ffôn: 01685 722176
  

 

Bwrdd yr Iaith Gymraeg