£5000 - Cyfle i fusnesau newyddOs ydi chi'n ysu i ddechrau busnes eich hun, neu am ddatblygu syniad cyffrous o fewn busnes sydd wedi ei dechrau o fewn y pum mlynedd diwethaf ... wel, dyma'ch cyfle i ennill PUM MIL O BUNNOEDD a chyngor busnes i droi pethau'n realiti.
Daw'r cyfle yma trwy gystadleuaeth Gorsedd y Dreigiau (sef panel o entrepreneurs amlwg Cymreig) sy'n dod at ei gilydd i feirniadu cystadleuaeth unigryw i siaradwyr Cymraeg ar ffurf y gyfres deledu boblogaidd Dragon's Den. Trefnir y gystadleuaeth gan Menter a Busnes ar y cyd â Llywodraeth y Cynulliad, a gyda chymorth cwmni Telesgôp. Gofynnir am gynllun busnes syml (templed ar gael o’r linc isod) yn amlinellu'r syniad (gall fod yn ddyfais, cynnyrch, gwasanaeth, etc). a bydd y tri gorau yn cael gwahoddiad i gyflwyno'u syniad i Orsedd y Dreigiau yn y rownd derfynol a gynhelir ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw'r 2il o Orffennaf 2010. Am fwy o wybodaeth, y rheolau, a templed o'r ffurflen gais/cynllun busnes rhowch alwad ffon i ni ar 01970 636280 07/06/2010 Gweithgareddau i Ddysgwyr![]() Cwrs hyder a Sadwrn Siarad ym Merthyr. ![]() 17/04/2010 Llythyr o Gefnogaeth i Gynllun Soar (Ie – un arall!)Yn gyntaf hoffwn i ddiolch i chi am eich cefnogaeth o Gynllun Soar. Fel yr ydych yn gwybod eisoes, rydym wedi llwyddo sicrhau’r arian i gwblhau adnewyddiad adeilad y Ganolfan a thrawsnewid Capel Soar i fod yn Theatr Gymunedol a Chanolfan Dreftadaeth. Cyfanswm yr arian yw £1,381,378, sydd yn cynnwys:
£527,000 Cronfa Loteri Treftadaeth £360,000 Blaenau’r Cymoedd £71,949.00 Low Carbon Buildings Trust £422,429.00 Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol (2 grant) Rwyf nawr wrthi’n paratoi cais i’r Loteri Fawr am gyfanswm o £200,000. Fe fydd yr arian yn ariannu ein darnau gosod a gosodiadau (celfi ac ati) ac yn fwy pwysig, cyflog Swyddog Datblygu Celfyddydau am gyfnod o 3 blynedd. Fe fydd y Swyddog yn gweithio i sefydlu partneriaethau creadigol gydag ysgolion, gwasanaethau ieuenctid, addysg bellach/oedolion a’r gymuned ehangach. Cynigir y cynllun cyfleodd cyffrous newydd am fynegiant creadigol, ymrymhau, dysgu a datblygiad, ac yn cyfrannu at adfywiad cyflawn y gymuned. Er rydym wedi ymgymryd â nifer o ymgynghoriadau cymunedol dros y 2 flynedd diwethaf, mae angen fwy o sylwadau cyfredol ar gyfer y cais. Felly, rwyf yn gofyn i chi, unwaith eto, i ddangos eich cefnogaeth am beth rydym yn cyflawni - gyda’n gilydd - wrth ysgrifennu llythyr o gefnogaeth i’r cais. Os ydych yn teimlo fod angen fwy o wybodaeth arnoch, codwch y ffôn neu e-bostiwch fi. Diolch o galon, Lisbeth McLean Prif Swyddog 07/05/2010 Cwrs lefel Mynediad![]() Mae'r lefel yma ar gyfer dechreuwyr, gyda'r pwyslais ar ddechrau sgwrsio yn Gymraeg. Mae dysgwyr yn dysgu siarad am fanylion personol a digwyddiadau yn y gorffennol, ymhlith llawer o bethau eraill. Mae'n bosib sefyll arholiad Mynediad tua diwedd y cwrs, ond dydy arholiadau ddim yn orfodol.
Cyflymder Hamddenol Mae’r cwrs yn cyfarfod unwaith yr wythnos am ddwy flynedd. Cam Mynediad Rhan 2 Canolfan Canolfan Gymraeg Merthyr (blwyddyn 2), Merthyr, CF47 8UB. Amser Ar Mercher am 19:00 - 21:00, (total 2 awr yr wythnos). Mae'r cwrs yn dechrau ar 30 Medi 2009, am 30 wythnos. Pris £60.00 y flwyddyn. Pris gostyngedig ar gael. Cysylltwch â’r Ganolfan am fanylion. 17/08/2009
|
Lluniau Bedroc 2010 >> Bedroc ![]() |