Merthyr

Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful

Hybu ac ehangu defnydd o’r Gymraeg


Ieuenctid

Ieuenctid 1

Prosiect Gwaith Ieuenctid

Prosiect Gwaith Ieuenctid
Mae’r prosiect yma yn adeiladu ar lwyddiant Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful. Prosiect ar y cyd ydyw gyda’r partneriaid sef Urdd Gobaith Cymru, Menter Iaith Merthyr Tudful a’r Cyngor Sir oll yn chwarae rhan flaenllaw. Mae’r swyddog, Siôn Roberts, wedi ei leoli yn festri Capel Soar sy’n gartref i Ganolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful.

Bwriad y prosiect yw rhoi cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc 14-19 yr ardal, gan gynnig ystod eang o brofiadau gwahanol yn ymwneud ag ymwybyddiaeth ddiwylliannol.

Mae’r prosiect yn cynnwys sefydlu clybiau ieuenctid Cymraeg wythnosol yn ysgolion uwchradd ail iaith y sir ar gyfer pobl ifanc o‘r oedran 14-19. Gwneir gweithgareddau o bob math yn defnyddio’r iaith Gymraeg a chynigir profiadau newydd iddynt drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy drefnu teithiau ac ymweliadau megis:
Taith i stiwdio y BBC
Taith i’r Bae, Canolfan yr Urdd, y Senedd, Canolfan y Mileniwm a.y.y.b
Taith i weld sioe Cân i Gymru
Gigiau Cymraeg
Cyrsiau preswyl yng Nglanllyn
Gemau rygbi
Prosiect Gwaith Ieuenctid
17/02/2009

Sgwad Sgwennu

Mae nifer o blant wedi bod yn mwynhau sesiynau sgwennu creadigol dros y misoedd diwethaf. Wedi ei threfnu ar y cyd gyda Chyngor Merthyr Tudful a’r Fenter mae’r awdures Catrin Dafydd wedi bod yn tywys y bobol ifanc trwy’r proses o sgwennu gwaith ei hun. Cafwyd lot mawr o hwyl ac fe fydd y sesiwn nesaf yn cymryd lle ar Ddydd Sadwrn Mai 26ain am 10.00 y.b. yn y Ganolfan Gymraeg. Weler enghreifftiau o waith y sgwad sgwennu isod.
Cysylltwch â’r Fenter am fwy o wybodaeth.
29/04/2007

Ysgol Roc!

Ysgol Roc!
Dros y chwech wythnos diwethaf mae rhai o ddisgyblion Rhydywaun wedi bod yn troi fe lan i 11 wrth i nhw ddilyn yn camau Jack Black. Mae ysgol roc y Canolfan yn cyfle i chwarae a ddysgu gyda cerddorion eraill gyda pawb yn cael cyfle i jamo beth bynnag ei safon. Fe fydd yr ysgol roc yn parhau pob nos Lun rhwng 6-8y.h. rhad ac am ddim ac mae croeso i unrhywun ymuno.
Ysgol Roc!
30/08/2007

Sesiwn Jamio Nos Fercher 10fed Ionawr

Sesiwn Jamio Nos Fercher 10fed Ionawr
Daeth nifer o ddisgyblion Ysgol Gyfun Rhydywaun ynghyd nos Fercher diwethaf ar gyfer ail sesiwn jamio Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful .
Wedi ei threfnu ar y cyd efo’r cynllun ieuenctid CIC Rhondda Cynon Taff, cyfle oedd i gerddorion ifainc y cymoedd canu’u hofferynnau efo cerddorion profiadol mewn sefyllfa byw.
Roedd neuadd y Ganolfan, a adnewyddwyd yn ddiweddar, yn mor o gerddoriaeth wrth i sŵn gitarau, drymiau, ffidilau, clarinetau ac un accordion(!) llenwi’r awyr.
‘llwyddwyd y noson yn ei amcan o ddod a cherddoriaeth Gymraeg i’r ardal a darparu’r cyfle i bobol ifanc profi’r iaith y tu allan i’r ysgol mewn sefyllfa fodern a chyfoesol’
Edrycha’r trefnwyr ymlaen at gynnal fwy o ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol agos, gan ddechrau efo gig ‘Y Diwygiad’ ar nos Wener, 19eg Ionawr yn y Ganolfan Gymraeg.
Sesiwn Jamio Nos Fercher 10fed Ionawr
15/01/2007

 

Prosiect Ieuenctid


CD Opera Roc
Cyhoeddwyd CD o Opera Roc y Fenter
Prynwch gopi!

Opera Roc

Opera Roc

 


Uwch Adran Merthyr


Dic Penderyn a'i wraig ym mherfformiad y Ganolfan

 


Canolfan a
Menter Gymraeg Merthyr

Neuadd Soar
Pontmorlais
Merthyr Tudful
CF47 8UB
Ffôn: 01685 722176
  

 

Bwrdd yr Iaith Gymraeg