Merthyr

Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful

Hybu ac ehangu defnydd o’r Gymraeg


Dysgwyr 1

Gweithgareddau i Ddysgwyr

Gweithgareddau i Ddysgwyr
Cwrs hyder a Sadwrn Siarad ym Merthyr.
Gweithgareddau i Ddysgwyr
17/04/2010

Bore Coffi y Ganolfan Gymraeg

Bore Coffi y Ganolfan Gymraeg
Mwynhau a sgwrsio yn y Bore Coffi, Canolfan Gymraeg Merthyr Tudful. Dewch draw i'n bore coffi bob dydd Mawrth, 11.30-12.30! Cyfle i ymarfer eich Cymraeg a chwrdd â phobl newydd dros yr Haf!
Bore Coffi y Ganolfan Gymraeg
25/07/2005

Cwrs lefel Mynediad

Cwrs lefel Mynediad
Mae'r lefel yma ar gyfer dechreuwyr, gyda'r pwyslais ar ddechrau sgwrsio yn Gymraeg. Mae dysgwyr yn dysgu siarad am fanylion personol a digwyddiadau yn y gorffennol, ymhlith llawer o bethau eraill. Mae'n bosib sefyll arholiad Mynediad tua diwedd y cwrs, ond dydy arholiadau ddim yn orfodol.

Cyflymder Hamddenol

Mae’r cwrs yn cyfarfod unwaith yr wythnos am ddwy flynedd.

Cam

Mynediad Rhan 2

Canolfan

Canolfan Gymraeg Merthyr (blwyddyn 2), Merthyr, CF47 8UB.

Amser

Ar Mercher am 19:00 - 21:00, (total 2 awr yr wythnos). Mae'r cwrs yn dechrau ar 30 Medi 2009, am 30 wythnos.

Pris

£60.00 y flwyddyn. Pris gostyngedig ar gael. Cysylltwch â’r Ganolfan am fanylion.
17/08/2009

Y Lle i Ddysgu Cymraeg gan Helen Davies

Y Lle i Ddysgu Cymraeg gan Helen Davies
Gyda’r flwyddyn newydd mae’r dosbarthiadau Cymraeg y Ganolfan wedi symud mewn i'w cartref newydd yn y festri. Diolch o galon i bawb sy wedi helpu adnewyddu'r lle sydd yn nawr yn edrych yn dda iawn.

Erbyn hyn mae tua 60 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar gyfer dosbarthiadau, gyda dros 30 yn mynychu cwrs hyblyg blwyddyn un dwywaith yr wythnos. Dyna'r tro cyntaf i ni redeg cwrs o'r fath, gwers 1 ar gael bore dydd llun ym Merthyr, prynhawn dydd llun yn Aberdâr a nos Fawrth ym Merthyr a gwers 2 ar gael bore dydd Mercher a nos Iau ym Merthyr a phrynhawn dydd Gwener yn Aberdâr.
Mae nifer o bobl sy'n gweithio sifftiau neu sy'n cael trafferth dod ar yr un amser bob wythnos wedi manteisio o'r drefn.

Mae'n codi fy nghalon i weld cymaint o bobl yn troi lan bob gwers ac mae eu cariad tuag at yr iaith yn amlwg, er bod rhai ohonynt wedi bod yn dysgu dim ond ers mis Medi.

Perfformiwyd sgets Nadoligaidd gan grwp o ddysgwyr blwyddyn un a dau yn ystod y noson Cerdd a Pheint ym mis Rhagfyr. Dyna lun o rai ohonynt yn mwynhau canu
"Aderyn Melyn".

Maen nhw'n dweud pa mor bwysig yw'r cyfle i siarad yr iaith iddyn nhw er mwyn iddynt groesi'r bont i ddod yn rhan o'r gymdeithas Gymraeg. Mae'n help mawr iddynt i weld pobl sy'n gwisgo bathodynnau i ddweud eu bod nhw'n siarad y Gymraeg felly os does dim bathodyn gyda chi, ffoniwch Lis ac Ian i gael gafael ar un. Bydd nifer o'r dysgwyr yn sefyll arholiad "Defnyddio'r Gymraeg" ym mis Mawrth. Maen nhw hefyd yn edrych ymlaen at gystadlu yn eisteddfod y dysgwyr eleni. Gyda'r son am geisio perfformio pantomeim yn y gaeaf mae nifer ohonynt wedi cynnig peintio, gwau ac yn y blaen yn barod. Dylen ni fod yn falch iawn ohonynt. Rwyf yn sicr y byddent yn rhoi cyfraniad mawr i ni yn y dyfodol.
Cawsom ni ein babi cyntaf hefyd.

Llongyfarchiadau i Kristin Jones ar enedigaeth ei mab ym mis Rhagfyr. Mae pawb yn edrych ymlaen at weld Kristin nôl yn y dosbarth cyn bo hir.

17/04/2005

Cyrsiau Prifysgol Morgannwg > Dysgu

 

 

 

 

Canolfan a
Menter Gymraeg Merthyr

Neuadd Soar
Pontmorlais
Merthyr Tudful
CF47 8UB
Ffôn: 01685 722176
  

 

Bwrdd yr Iaith Gymraeg