Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful
 
 
English
 

Digwyddiadur
DyddiadAmser BethBle
11/02/2010
Dydd Iau Poster
7.30 Mentrau Iaith Cymru/Radio Cymru Brwydr y Bandiau 2010 Mae'r gystadleuaeth yn agored i grwpiau (o nifer resymol) neu unigolyn sydd yn byw yng Nghymru, ac sydd yn canu yn unrhyw arddull roc/ hip-hop/ gwerin/ acwstig/ jazz/ pop/ gwlad/ blŵs etc. ond dan yr amodau isod • Rhaid i'r unigolyn neu o leiaf hanner yr aelodau mewn grŵp fod yn 21 mlwydd oed neu iau, a rhaid i bob unigolyn fod dros 16 mlwydd oed. • Nid yw'r Grwpiau neu'r unigolyn wedi rhyddhau albwm, sengl neu EP yn fasnachol (ar werth yn y siopau). Gall y rhai sydd wedi cyfrannu traciau at CDs aml gyfrannog gystadlu. • Ni chaniateir i aelodau staff BBC na'u perthnasau gystadlu, nac ychwaith unrhyw berthynas agos neu staff i fudiadau neu unigolion sydd yn gysylltiedig a'r gystadleuaeth • Gofynnir am ganiatâd rhiant neu warcheidwad pan fo'n anghenraid, oherwydd cyfraith gwlad neu ganllawiau'r BBC. Sut i gystadlu? • Mae'n rhaid i bob band chwarae 3 cân Gymraeg. Mae'n rhaid i o leiaf un gân fod yn gwbl wreiddiol (cerddoriaeth a geiriau), ond caniateir i'r gan gyntaf a berfformir fod yn 'cover version' o unrhyw gan gyda geiriau Cymraeg. Ni fydd y gân yma yn cael ei darlledu ar y radio os fydd y band yn llwyddiannus yn y ddwy rownd gyntaf. • Mae angen i fandiau neu unigolion gysylltu gyda'u Menter Iaith leol cyn diwedd Rhagfyr 2009, drwy ffonio, e-bostio neu anfon llythyr. Cysylltwch â Nicola Evans ar 07500 878285 neu drwy e-bostio nicolaevans@menteriaith.org Clwb y Bont, Pontypridd (am fanylion Bws o Ferthyr Cysylltwch 01685 722176)
05/03/2010
Dydd Gwener Poster
7.00 Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful/Merched Y Wawr Huw Chiswell - Mae tocynnau ar gyfer ein dathliad Gwyl Dewi ar gael nawr o Siop y Ganolfan Neu swyddfa'r Menter. Am ddim ond £8 cewch gyfle i weld Huw Chiswell yn perfformio ynghyd a Parti'r Efail a Lleisiau Pontmorlais. Hefyd fe fydd Cawl traddodiadol yn cael ei weini. Nodwch newid lleoliad isod Neuadd Eglwys y Bedyddwyr, Stryd Fawr, Merthyr Tudful
Wythnosol
DyddiadAmserBethBle
Wythnosol
Dydd Sul Poster
6.00-8.00 Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful Côr y Ganolfan - Ydych chi'n hoffi canu? eisiau cwrdd a siaradwyr Gymraeg eraill? Mae Côr y Ganolfan yn ymarfer pob nos Sul. Os hoffech ymuno a chôr cymysg hwylus ar gyfer oedolion cysylltwch a'r Fenter nawr. ☺☺☺ Y Ganolfan Gymraeg, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB
Wythnosol
Dydd Llun
7.00yh Menter Merthyr Gwersi Cymraeg Cymunedol Great Escape, Georgetown
Wythnosol
Dydd Llun
11.00-12.00 Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful Clwb Coffi'r Canolfan - Pob bore dydd Llun mae yna gyfle i gwrdd a siaradwyr a dysgwyr Cymraeg eraill dros baned, gweithgareddau a gêmau croeso i ddysgwyr o bob safon Y Ganolfan Gymraeg, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB
Wythnosol
Dydd Mawrth
8.00 Menter Merthyr Dewch i fwynhau sgwrs dros beint Glan Taf Inn, Mynwent y Crynwyr
Wythnosol
Dydd Mawrth Poster
6.00-8.00 Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful Gweithdai Cerddoriaeth Gwerin - Oes diddordeb gyda chi mewn cerddoriaeth draddodiadol? Ydych chi’n canu offeryn yn barod ac eisiau dysgu alawon Cymreig? Neu ydych chi’n ddechreuwr pur sydd eisiau dysgu’r pibau Cymreig? Fe fydd cyfres o wersi/gweithdai gwerin yn cael ei rhedeg hyd at Nadolig yn y Ganolfan Gymraeg, yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â’r Menter nawr i arbed eich lle. Y Ganolfan Gymraeg, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB
Wythnosol
Dydd Mercher
9.00yh Mudiad Gymraeg Merthyr Noson Gymdeithasol i siaradwyr a dysgwyr The Imp, Pontmorlais
Wythnosol
Dydd Mercher
7.30 Mudiad Gymraeg Merthyr Gwersi Cymraeg Cymunedol The Imp, Pontmorlais
Wythnosol
Dydd Mercher
10.30-11.30 Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful Bore Coffi Beddllwynog (Bedlinog) - Gallwch cwrdd a siaradwyr/dysgwyr Cymraeg pob bore Mercher dros paned, gyda gêmau a gweithgareddau ymarfer iaith Croeso cynnes i ddysgwyr o bob safon Canolfan Adnoddau Cymunedol Beddllwynog
Cysylltwch â 01685 722176 am wybodaeth bellach

Am unrhyw fanylion pellach mae croeso i chi gysylltu â'n Swyddfa ar 01685 722176