
Ian Saunders, Lis McLean, Cynghorydd Ernie Gallsworthy,
Richard Harrington, Mansel Jones a Dyfrig Morgan
yn Lansiad Swyddogol Menter Gymraeg Merthyr Tudful 30 Ionawr 2004
Y Flwyddyn Gyntaf 2003 - 2004 Ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd 04-05 mae’n naturiol i edrych yn ôl ar lwyddiannau y flwyddyn gynt. Mae swyddogion Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful, gyda chymorth partneriaid a gwirfoddolwyr y Fenter, wedi llwyddo i ddarparu gweithgareddau wythnosol ac achlysurol ar gyfer pob sector y gymdeithas eang o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ym Merthyr Tudful a’r cylch. Cyflwynir amrywiaeth o weithgareddau o fewn adeilad y Ganolfan Gymraeg ym Mhontmorlais yng nghanol tref Merthyr Tudful. Mae’r rhain yn cynnwys gweithgareddau rheolaidd :Grwp Ti a Fi a Chylch Meithrin i blant dan oedran Ysgol, Dosbarthiadau Cymraeg Dwys i Oedolion, Cyfarfodydd Merched y Wawr, Boreau Coffi wythnosol, Uwch Adran Ieuenctid ac ymarferion Côr Y Ganolfan. Mae’r Fenter hefyd yn cynnal gweithgareddau achlysurol mas yn y Gymuned. Mae’r rhain yn cynnwys ystod eang o ddigwyddiadau o ymweliadau â dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion ac ysgolion Cymraeg ac ail iaith i dripiau i Lundain a Euro disney! |
Yn ystod y flwyddyn gyntaf canolbwyntiodd y Fenter ar ehangu gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc y gymuned. Gwelsom gynnydd mawr yn ein darpariaeth i blant a dechreuad da i ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc. Gweithiodd y Fenter ar y cyd gydag Ysgolion Cynradd yr ardal ar gynhyrchiad o ffilm fer am hanes Dic Penderyn. Dechreuodd Uwch Adran i bobl ifanc ym Merthyr ( Y Ganolfan) ac oherwydd llwyddiant y prosiect roedd hi’n bosib i sefydlu Adran ychwanegol ar waelod y cwm yn Nhreharris (Canolfan Cymunedol). Hefyd dechreuodd y Fenter y gwaith pwysig o ddenu pobl ifanc sydd yn dysgu Cymraeg fel ail iaith i fewn i’n plith wrth ymweld ag ysgolion Cynradd a Chyfun Saesneg eu hiaith yr ardal. Digwyddodd hwn i gyd yn ogystal ag ymweliad Drama Riff i’r Ganolfan, Sadyrnau Siarad, Nosweithiau ciniawa, rownd rhanbarthol Brwydr y Bandiau, Noson Carolau, Noson Geltaidd, ac wrth gwrs dathliadau Gwyl Dewi! Flwyddyn gyntaf ysgubol! Diolch i bawb a
gefnogodd a chyfrannodd at lwyddiannau’r Fenter llynedd.
Gobeithiwn y gallwn ddibynnu ar eich cefnogaeth am flwyddyn
arall. |