Merthyr

Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful

Hybu ac ehangu defnydd o’r Gymraeg

Soar 2

Llythyr o Gefnogaeth i Gynllun Soar (Ie – un arall!)

Yn gyntaf hoffwn i ddiolch i chi am eich cefnogaeth o Gynllun Soar. Fel yr ydych yn gwybod eisoes, rydym wedi llwyddo sicrhau’r arian i gwblhau adnewyddiad adeilad y Ganolfan a thrawsnewid Capel Soar i fod yn Theatr Gymunedol a Chanolfan Dreftadaeth. Cyfanswm yr arian yw £1,381,378, sydd yn cynnwys:
 £527,000 Cronfa Loteri Treftadaeth
 £360,000 Blaenau’r Cymoedd
 £71,949.00 Low Carbon Buildings Trust
 £422,429.00 Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol (2 grant)

Rwyf nawr wrthi’n paratoi cais i’r Loteri Fawr am gyfanswm o £200,000. Fe fydd yr arian yn ariannu ein darnau gosod a gosodiadau (celfi ac ati) ac yn fwy pwysig, cyflog Swyddog Datblygu Celfyddydau am gyfnod o 3 blynedd.

Fe fydd y Swyddog yn gweithio i sefydlu partneriaethau creadigol gydag ysgolion, gwasanaethau ieuenctid, addysg bellach/oedolion a’r gymuned ehangach. Cynigir y cynllun cyfleodd cyffrous newydd am fynegiant creadigol, ymrymhau, dysgu a datblygiad, ac yn cyfrannu at adfywiad cyflawn y gymuned.

Er rydym wedi ymgymryd â nifer o ymgynghoriadau cymunedol dros y 2 flynedd diwethaf, mae angen fwy o sylwadau cyfredol ar gyfer y cais.

Felly, rwyf yn gofyn i chi, unwaith eto, i ddangos eich cefnogaeth am beth rydym yn cyflawni - gyda’n gilydd - wrth ysgrifennu llythyr o gefnogaeth i’r cais.

Os ydych yn teimlo fod angen fwy o wybodaeth arnoch, codwch y ffôn neu e-bostiwch fi.
Diolch o galon,
Lisbeth McLean
Prif Swyddog
07/05/2010

Hanes Capel Soar

Hanes Capel Soar
Mae Menter Merthyr Tudful wedi cyhoeddi llyfr ar hanes Capel Soar Pontmorlais. Bydd y capel yn cael ei adnewyddu yn ganolfan gelfyddydol.
Mae'r llyfr ar gael am £3 o Siop y Ganolfan.
Hanes Capel Soar
17/07/2008

Grant i Gapel Soar

Grant i Gapel Soar
Rhoddwyd hwb mawr i gymuned Merthyr gydag addewid o grant o £527,000 oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) i drawsnewid adeiladau Capel Soar a’i Festri yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau cymunedol a’r celfyddydau perfformio.

Mae’r prosiect, fyddai’n creu lleoliad stiwdio’r celfyddydau perfformio a chyfleuster arddangos cyntaf Merthyr Tudful, wedi cael pas Cyfnod Un*, sy’n golygu bod CDL wedi clustnodi’r arian wrth i gynlluniau manylach gael eu rhoi at ei gilydd. Bydd £56,000 ychwanegol o arian datblygu oddi wrth CDL yn galluogi i Ganolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful (CMGMT), sefydliad cymunedol, symud ymlaen gyda’i gynllun £1.3 miliwn i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r Capel rhestredig Gradd II ac i greu canolbwynt y mae angen mawr amdano yng nghanol y gymuned.

Hefyd, mae’r prosiect wedi’i gefnogi gyda £300,000 oddi wrth raglen Blaenau’r Cymoedd.

Mae Capel Soar yn adeilad amlwg yng nghanol tref Merthyr. Bydd cynlluniau i ailwampio a grant CDL yn adfywio’r adeilad sydd wedi bod dan fygythiad cael ei gau. Ar hyn o bryd, mae CMGMT yn cynnal ystod o weithgareddau cymunedol o’u canolfan yn y cyn Festri ac adeiladau’r Ysgol Sul, a byddant yn ymgymryd â Phrydles y Capel i ymestyn eu gwasanaethau ac i sefydlu lleoliad stiwdio’r celfyddydau a chyfleuster arddangos cyntaf y dref. Bydd y cyfleusterau gwell yn darparu ystod fwy o weithgareddau i bobl ifanc ac oedolion ym Merthyr, gan gynnwys grwpiau theatr, gwersi cerdd a sesiynau hyfforddi fydd yn cynnwys pynciau o’r iaith Gymraeg i dreftadaeth i fagu hyder. Bydd y ganolfan ddwyieithog ar agor i bawb, gan dargedu grwpiau ysgol, grwpiau cymuned a grwpiau anabledd a phobl sydd wedi’u heithrio yn benodol.

At hyn, bydd y grant yn ariannu swyddog treftadaeth i gynyddu ymwybyddiaeth leol o dreftadaeth Merthyr, yn arbennig ei threftadaeth adeiledig a rôl yr iaith Gymraeg. Bydd y swyddog yn gweithio gyda thîm o wirfoddolwyr CMGMT i greu arddangosfeydd, diwrnodau treftadaeth a gweithdai a bydd yn ceisio recriwtio 20 o bobl ifanc eraill i helpu cynllunio ac arwain gweithgareddau diwylliannol a chymdeithasol yn yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Dan Clayton Jones, Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru: “Capel Soar yw un o unig Gapeli’r Annibynwyr sy’n weddill ac sydd mewn un darn mewn ardal sydd wedi colli darnau sylweddol o’i threftadaeth adeiledig o’r 19eg ganrif. Mae ei drawsnewid yn ganolfan i bobl leol yn ffordd grêt o ddiogelu ei ddyfodol. Wedi iddo gael ei ddatblygu’n llawn, bydd y prosiect o fantais enfawr i’r gymuned gyfan ym Merthyr a bydd yn galluogi i bawb ddysgu mwy am y gorffennol ar stepen eu drws.”

“Byddai’r cynllun arfaethedig yn rhoi’r cyfle i wirfoddolwyr, yn arbennig pobl ifanc, gymryd rhan mewn trefnu gweithgareddau, ymgysylltu â phobl ifanc eraill a chymryd rhan yn yr ystod eang o weithgareddau eu hunain. Heb os, mae gan y ganolfan botensial enfawr i fod yn ganolbwynt i blant ysgol a grwpiau cymunedol. Nawr, bydd rhaid i CMGMT ddatblygu eu cynlluniau a gweithio i ddiogelu arian partneriaeth er mwyn i ni allu cyflwyno’r arian iddynt.”

Bu i Leighton Andrews, Dirprwy Weinidog Adfywio, groesawu’r newyddion: “Mae hwn yn brosiect allweddol yng nghanol Merthyr fydd nid yn unig yn diogelu ac yn trawsnewid adeilad eiconig ond hefyd yn darparu canolfan bwysig i’r gymuned a ffocws allweddol ar gyfer meithrin talent leol yn y celfyddydau creadigol. Hefyd, mae ganddo’r potensial i greu swyddi newydd ac rwyf wrth fy modd y bydd arian oddi wrth CDL a rhaglen Blaenau’r Cymoedd yn helpu i droi’r prosiect cyffroes ac arloesol yma’n realiti.”

Credir bod datblygiad y ganolfan yn rhan annatod o Strategaeth y Celfyddydau Merthyr sydd wedi’i gynnig gan yr awdurdod lleol fel rhan o gynllun adfywio ehangach allai ddatblygu Parth y Celfyddydau yn ardal Pontmorlais.

Dywedodd Lisbeth McLean, Swyddog Datblygu yn CMGMT: “Mae’r newyddion bod yr arian ar ei ffordd wedi dod yn sgil tair blynedd o waith caled gan CMGMT gyda chefnogaeth Fforwm y Celfyddydau Merthyr a’r Cyngor Bwrdeistref. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r gymuned i wireddu breuddwydion y bobl dalentog sydd gennym yn ein hardal. Hefyd, mae’r prosiect yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen i’r iaith Gymraeg a’n gobaith yw y bydd hyn yn allweddol i agor pob math o ddrysau yn y dyfodol.”
Grant i Gapel Soar
09/10/2008

Cynllun Soar

Cynllun Soar
15/07/2006

Cronfa Treftadaeth y Loteri

 

 

Cynllun Soar

 

 

 

Canolfan a
Menter Gymraeg Merthyr

Neuadd Soar
Pontmorlais
Merthyr Tudful
CF47 8UB
Ffôn: 01685 722176
  

 

Bwrdd yr Iaith Gymraeg